Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru
Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru, a sefydlwyd i gefnogi’r diwydiant ffermio yng Nghymru drwy ddarparu atebion i rai o’r sialensiau allweddol o ran iechyd a lles anifeiliaid.
Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru, a sefydlwyd i gefnogi’r diwydiant ffermio yng Nghymru drwy ddarparu atebion i rai o’r sialensiau allweddol o ran iechyd a lles anifeiliaid.
Mae sgrînio stoc ifanc trwy rhaglen Gwaredu BVD yn rhad ac am ddim, gyda £1000 ychwanegol ar gael i gefnogi helfeydd PI os oes angen.
Manteisiwch ar hyfforddiant ar-lein am ddim trwy glicio ar y ddolen ganlynol:
Gwaredu BVD (Hyfforddiant Datblygiad Proffesiynol Parhaus Ar-lein)
Clefyd feirysol mewn gwartheg yw Dolur Rhydd Feirysol Buchol sy’n achosi gwrthimiwnedd a methiant i atgenhedlu. Gall y clefyd leihau ffrwythlondeb, arwain at fwy o achosion o erthylu ac achosi niwmonia mewn stoc sydd wedi’i heintio, a hynny’n golygu effeithiau personol ac ariannol difrifol, sy’n para’n hir, ar ffermydd cleientiaid.
Cynhelir profion law yn llaw â phrawf TB blynyddol y fferm, a dim ond o bum anifail rhwng naw a 18 mis y mae angen cymryd samplau gwaed. Gellir postio’r samplau ar unwaith i’r labordy lle cânt eu profi am wrthgyrff BVD. Os oes gwrthgyrff BVD yn bresennol ar y fferm, yna argymhellir y dylid canfod yr anifeiliaid sydd wedi’u heintio’n barhaus a’u gwaredu, oherwydd gallant achosi problemau i weddill y fuches.
Sioe Frenhinol Cymru 2019
Ymunodd Lesley Griffiths, AC Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop â ni yn Sioe Frenhinol Cymru 2019 i siarad am bwysigrwydd profi am BVD yn ystod blwyddyn olaf profi am ddim gyda’r rhaglen Gwaredu BVD.
Mae Grŵp Milfeddygol y Gelli yn ymweld â Pendre Farm am ei brawf TB blynyddol yn ogystal â phrofi ar gyfer BVD.
Mae rhaglen sgrinio wirfoddol tair blynedd gwerth £10 miliwn Gwaredu BVD ar gael i'r 11,000 o ffermydd gwartheg yng Nghymru. Caiff y rhaglen ei rheoli gan Ganolfan Ymchwil Amaethyddol Coleg Sir Gâr mewn partneriaeth â’r Coleg Milfeddygaeth Brenhinol. Mae’n golygu sgrinio am BVD yr un pryd â'r prawf TB i ddarparu’r cymorth a’r arweiniad angenrheidiol i sicrhau bod ffermwyr yn gallu adnabod buchesi sydd wedi’u heintio â BVD yn gywir ac yn gyflym. Bydd cymorth ar gael hefyd i ganfod yr holl anifeiliaid sydd wedi’u heintio’n barhaus mewn buchesi sydd wedi’u heintio.
Mae gwaredu BVD yn flaenoriaeth i Grŵp Fframwaith Cymru ar Iechyd a Lles Anifeiliaid, ac mae’n cael ei hariannu drwy Raglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru. Mae dros 75% o ffermydd gwartheg yng Nghymru wedi cael eu sgrinio hyd hyn.